Hywel Wyn Edwards, trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n trafod cadair rhyfeddol yr ŵyl eleni…
Wel, ydych chi’n ei hoffi hi? Yn sicr, dyma fydd un o’r pynciau llosg ar faes yr Eisteddfod brynhawn Gwener eleni. Ac am beth fydd pawb yn sôn? Am Gadair yr Eisteddfod eleni, wrth gwrs, sydd yn eithaf gwahanol i’r arfer.
Heno, bydd y Gadair yn cael ei chyflwyno gan Brifysgol Morgannwg i Bwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd mewn cyflwyniad arbennig yn y Brifysgol yn Nhrefforest, a dyma’r tro cyntaf i’r Gadair gael ei gweld gan unrhyw un – yn gyhoeddus.
Fel y dywedais, mae’n eithaf gwahanol – a does dim breichiau, sy’n rhywbeth anghyffredin iawn i Gadair yr Eisteddfod – ac yn wir dyma’r tro cyntaf i ni gael Cadair o’r fath, felly mae’n siwr y bydd hynny hefyd yn bwnc trafod rhwng nawr a mis Awst.
Staff y Brifysgol sy’n gyfrifol am gynllunio’r Gadair ac am reoli’r prosiect. Syniad Jeremy Spencer oedd y cynllun, ac yna bu’n gweithio gyda Richard Randall i reoli’r prosiect. Mae’r ddau ohonynt ar staff Cyfadran y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol. Fe’i gwnaethpwyd gan Alex McDonald o Sir Benfro, ac ef hefyd oedd yn gyfriol am gynhyrchu Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch ddwy flynedd yn ôl.
Ond yn ôl at Gadair 2010. Mae’n hynod fodern o’i chymharu gyda nifer o Gadeiriau drwy’r blynyddoedd, ac mewn gwirionedd, mae hyn yn rhan o’i hapel. Mae’n wahanol iawn i Gadeiriau eraill, ac mae hyn hefyd yn wir am yr Eisteddfod ei hun eleni. Mae’r Pwyllgor lleol yn edrych ymlaen i’w derbyn heno, ac maen nhw’n teimlo bod y Gadair yn adlewyrchu’r Brifwyl eleni’n arbennig o dda, gan fod y cynllunydd wedi defnyddio cysyniadau sy’n adnabyddus i Eisteddfodwyr ond yn eu cyflwyno mewn ffordd hollol newydd.
Mae’r Nod Cyfrin yn ganolog i’r cynllun, a thair elfen y Nod sy’n cael eu hadlewyrchu ym mhren y gastanwydden bêr, sy’n bren golau a modern yr olwg ynddo’i hun. Mae iaith, yn ysgrifenedig a llafar yn cael ei hadlewyrchu mewn gwahanol rannau o’r Gadair; y sedd yn cynrychioli iaith lafar ar ffurf llyfr agored, a phig y Gadair yn debyg i gwilsyn, neu ysgrifbin, sydd, wrth gwrs yn cynrychioli iaith ysgrifenedig.
Yn sicr, bydd ffurf fodern y Gadair yn siwr o synnu ambell un, ond edrychwch yn ofalus arni ac fe welwch ei harddwch syml. Y graen naturiol yn y pren a symylrwydd yr ysgrifen ar ei chefn. Ydi, mae’n Gadair fodern, ond yn Gadair sy’n berffaith ar gyfer y Brifwyl wrth i ni edrych tuag at ail ddegawd yr unfed ganrif ar hugain, ac mae’n cynrychioli’r math o Ŵyl fydd yn digwydd ac yn ein disgwyl yn Y Gweithfeydd, Glyn Ebwy, eleni.
Y flwyddyn nesaf, byddwn yn dathlu ein pen blwydd yn gant a hanner ar ein ffurf bresennol. Mae nifer fawr o Gadeiriau wedi mynd a dod dros y blynyddoedd – rhai yn enwocach nac eraill. Ond yr hyn sy’n bwysig yn y pen draw – ac fe fyddwn ni i gyd yn croesi’n bysedd rhwng nawr a phrynhawn Gwener 6 Awst – yw y bydd teilyngdod, ac y bydd prifardd yn eistedd yn hedd yr Eisteddfod.
Rydym yn ddiolchgar i Brifysgol Morgannwg am roi’r Gadair a’r wobr ariannol eleni, ac edrychwn ymlaen i glywed y trafod a’r mynegi barn am y Gadair dros yr wythnosau nesaf.