Mae’r Gadair fwyaf rhyfeddol yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol wedi ei gyflwyno i Bwyllgor Gwaith yr ŵyl, heddiw.

Nod cyfrin Gorsedd y Beirdd sydd wedi ysbrydoli y siâp triongl anghyffredin, medden nhw. Darllenwch sylwadau’r trefnydd Hywel Wyn Edwards am y gadair ar Blog Golwg 360.

Cafodd Cadair yr Eisteddfod ym Mlaenau Gwent ei chyflwyno i gadeirydd Pwyllgor Gwaith y Brifwyl gan Brifysgol Morgannwg, mewn seremoni arbennig yn Nhrefforest.

“Er bod y cynllunydd wedi defnyddio cysyniadau sy’n adnabyddus i Eisteddfodwyr, mae’r Gadair ei hun yn anghyffredin ac yn cyflwyno’r themau hyn mewn ffordd hollol newydd,” meddai’r cadeirydd, Richard Davies.

Fe gafodd y Gadair ei dylunio gan ddau o staff Cyfadran y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol, Jeremy Spencer a Richard Randall.

Cafodd i chrefftio gan Alex McDonald o Sir Benfro, oedd hefyd yn gyfrifol am gynhyrchu Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch, 2008.

‘Modern’

Mae’r Gadair yn fodern iawn ei diwyg gyda’r Nod Cyfrin yn ganolog i’w chynllun, a thair elfen y Nod yn cael eu hadlewyrchu ym mhren y gastanwydden bêr.

“Roeddwn i eisiau cadair oedd yn dweud rhywbeth am y Brifysgol a’r Eisteddfod,” meddai Jeremy Spencer, y dylunydd, wrth Golwg360.

“Mae’r gadair wedi’i hadeiladu o amgylch y Nod Cyfrin. Fe wnaeth o gynllunio’i hun i raddau,” meddai cyn dweud fod y pren castanwydden bêr wedi’i dyfu yng Nghymru a’i fod wedi gorfod “sychu allan am gyfnod eithaf hir”.

Mae’r pren wedi’i dyfu’n gynaladwy gan Goed Cymru o goedydd Cymreig a’r ffeibr carbon yn adlewyrchu safle’r Brifysgol ym myd technoleg.

“Fel arfer, ar ôl gorffen gwneud rhywbeth ‘dw i’n meddwl – beth allwn i fod wedi’i wneud yn wahanol?

“Ond, rwy’n falch ofnadwy o hwn. ‘Dw i’n credu ei fod o wedi gweithio’n dda,” meddai.

“Mae’n bosibl eu gweld holl ffordd o amgylch y gadair – 360 gradd.”