Diolch byth, mae’r cecru dros a fydd refferendwm yn yr hydref y gwanwyn neu hydref nesaf i ben ac mae’n fater o aros i weld pryd yn nhri mis cynta 2011 fydd y bleidlais. A dweud y gwir, pryd ym mis Mawrth yw’r cwestiwn mawr.
Cyn i’r datganiad ddod yn gyhoeddus roedd Nick Bourne yn llym ei dafod tuag at Blaid Cymru yn ei gynhadledd arferol gyda’r wasg. Gallai Plaid Cymru fod wedi gwneud mwy i sicrhau bod y refferendwm yn digwydd ynghynt, gan osgoi dwy bleidlais fawr yn agos at ei gilydd yw barn arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad*. Mae e a Kirsty Williams wedi dweud ar sawl achlysur mai refferendwm yn yr hydref fyddai orau, er mwyn osgoi codi’n un llais i gefnogi pleidlais Ie mewn refferendwm ac yna ddadlau’n chwyrn ar bolisiau eraill yn y frwydr i ennill pleidleisiau yn etholiadau’r Cynulliad. Gyda phleidleiso’n digwydd ym Mhrydain ar ddydd Iau, gallai’r refferendwm gael ei gynnal ar 3, 10, 17, 24 neu 31 Mawrth 2010.
Mae etholiad y Cynulliad eisoes wedi ei amserlenni ar gyfer Mai 5 2011. Er mwyn cael digon o agendor rhwng y ddwy bleidlais byddai Mawrth 3 yn ddewis amlwg a dau fis i’r pleidiau gwahanol fynd am yddfau ei gilydd wedi’r love-in refferendwmaidd. Wedi dweud hynny fe fyddai canfasio yn nhywydd du Chwefror yn hunlle ac fel mae’r hen ddywediad yn dweud, mae Mawrth yn dod mewn fel llew -fydd y pleidleisiwyr yn troi mas mewn tywydd garw dechrau Mawrth? Pleidlais ddiwedd Mawrth felly? Mae’n bosib gall hyn, a sefydlu ymgyrch Ie, gael ei drafod pan fydd arweinwyr y pleidiau’n cyfarfod nos yfory. Gyda’r Llywodraeth yn dweud bod mwy o siarad a Cheryl Gillan ar amseriad y refferendwm ar y gorwel, efallai bydd dim o’r uchod yn cael ei drafod!
*manylion sylwadau Bourne yn Golwg ddydd Iau