Mae Liam McCreesh wedi cael ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn Uwch Gynghrair Cymru mewn noson wobrwyo yn Llandudno.

Fe ddaeth chwaraewr canol cae Port Talbot ar frig y rhestr a oedd wedi cael ei ddewis gan holl glybiau’r adran.

Roedd McCreesh pum pwynt o flaen ei gyd-chwaraewr Martin Rose a orffennodd yn ail gydag amddiffynwr y Seintiau Newydd, Steve Evans yn drydydd.

Fe gafodd Liam McCreesh ei dymor gorau gyda’r clwb ers arwyddo yn 2007, gan sgorio 17 gôl a helpu Port Talbot i ennill eu lle yn Ewrop y tymor nesaf a chyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru.

Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn

Fe gafodd Craig Jones ei wobrwyo am ei gyfraniad i ymgyrch y Seintiau Newydd wrth iddynt gipio’r bencampwriaeth y tymor diwethaf, gan gael ei enwi’n Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn Uwch Gynghrair Cymru.

Fe ymunodd Jones gyda’r Seintiau Newydd oddi wrth y Rhyl ym mis Mai 2009 ar ôl iddo helpu clwb y Belle Vue i ennill yr Uwch Gynghrair.

Mae Craig Jones hefyd wedi chwarae i Aberystwyth a thîm lled-broffesiynol Cymru.

Rheolwr y Flwyddyn

Mae rheolwr Bangor, Nev Powell, wedi cael ei enwi’n Rheolwr y Flwyddyn Uwch Gynghrair Cymru.

Fe arweiniodd Powell y clwb i’w trydedd buddugoliaeth yn olynol yng Nghwpan Cymru’r tymor diwethaf.

Fe gymerodd Nev Powell yr awenau yn Ffordd Farrar ym mis Mai 2007 ar ôl 14 mlynedd gyda Chei Connah.