Mae rhywun arall wedi dod ymlaen i gynnig gwobr bellach o £5,000 ar gyfer gwybodaeth fyddai’n arwain at arestio, cyhuddo a chael yn euog pwy bynnag oedd yn gyfrifol am lofruddio Ffion Wyn Roberts.
Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth dyn busnes anhysbys ym Mhorthmadog gynnig £5,000 o wobr. Mae’r wobr wedi’i dyblu bellach i £ 10,000 ar ôl i berson lleol arall gynnig gwobr o £5,000.
Mae’r Heddlu’n parhau i ymchwilio ar ôl i’r ferch leol gael ei llofruddio yn ôl ym mis Ebrill.
‘Annog’
“Mae cymunedau lleol Porthmadog a Thremadog wedi gweithio gyda ni yn ystod yr ymchwiliad hwn ac rydym yn hynod ddiolchgar iddynt am eu cymorth,” meddai’r Ditectif Uwch-arolygydd Peter Chalinor o Heddlu Gogledd Cymru.
“Fodd bynnag, efallai fod rhywun â gwybodaeth a allai fod yn bwysig i’r ymchwiliad. Gall y gwobrau ariannol hyn annog rhywun i ddod ymlaen.”
Fe ddywedodd hefyd fod yr achos yn ymchwiliad “hir a chymhleth” ond fod yr Heddlu wedi “ymrwymo i ddod â’r person neu bersonau sy’n gyfrifol am lofruddiaeth Ffion i gyfiawnder”
Mae Heddlu Gogledd Cymru’n parhau i apelio am wybodaeth mewn cysylltiad â’r eitemau sydd wedi’u darganfod gan gynnwys bag Ffion, trowsus tracwisg glas ac esgid.
Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 01745 538 499.