Mae Seland Newydd wedi sicrhau pwynt yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan y Byd yn erbyn Slofacia ar ôl gôl hwyr yn ystod amser ychwanegol.

Fe sgoriodd Winston Reid gyda pheniad o wyth llath gan dorri calonnau chwaraewyr Slofacia oedd yn meddwl eu bod nhw wedi gwneud digon i sicrhau’r tri phwynt llawn.

Dyma’r pwynt cyntaf erioed i Seland Newydd yn y gystadleuaeth a’i gôl gyntaf yng Nghwpan y Byd ers 28 mlynedd.

Fe aeth Slofacia ar y blaen wrth i Robert Vittek sgorio wedi 50 munud – gôl gyntaf Slofacia yn eu gêm gyntaf erioed yng Nghwpan y byd.

Doedd dim llawer o gyfleoedd yn yr hanner cyntaf gyda’r ddau dîm yn ddigon di-ffalch ac amddiffynnol. Ond ar ôl i Slofacia sgorio pum munud wedi’r egwyl, roedd ‘na fwy o ryddid i’w chwarae.

Slofacia oedd y tîm gorau am gyfnodau helaeth o’r gêm ond fe wastraffodd Chris Killen gyfle da i unioni’r sgôr gyda pheniad.

Gyda diwedd y gêm yn agosáu fe gynyddodd Seland Newydd y pwysau ar Slofacia gyda’r eilydd Chris Wood yn mynd yn agos gyda pheniad arall.

Ond munudau’n ddiweddaraf fe lwyddodd Reid gyda’i beniad i gornel y rhwyd i unioni’r sgôr a sicrhau pwynt yn eu gêm gyntaf o’r gystadleuaeth.