Mae’r BBC yn ystyried darlledu fersiwn o gemau Cwpan y Byd heb sŵn y Vuvuzela yn dilyn cwynion gan wylwyr ynglŷn â’r cyrn plastig.

Fe ddaw hyn ar ôl i’r gorfforaeth dderbyn 545 o gwynion ynglŷn â sŵn yr offeryn.

Mae’r BBC yn ymchwilio i amryw o opsiynau sy’n cynnwys cael gwared ar fwyafrif o’r sŵn heblaw am y sylwebaeth ar fersiwn o’r gêm trwy eu gwasanaeth botwm coch.

Dywedodd llefarydd ar ran y BBCy bydd penderfyniad yn cael ei wneud yn hwyrach yn yr wythnos.

Mae trefnwyr Cwpan y Byd eisoes wedi dweud na fydd y cyrn yn cael eu gwahardd o’r stadiwms yn ystod y gystadleuaeth.

Ond mae darlledwyr ar draws y byd wedi derbyn cwynion gan nifer o wylwyr sy’n dweud eu bod nhw’n gwylio’r gemau gyda’r sŵn i ffwrdd.