Mae penderfyniad Cyngor Ceredigion i fwrw ymlaen â chynlluniau i gau ysgolion cynradd ac uwchradd yn ardal Llandysul er mwyn sefydlu un ysgol 3-19 oed yn eu lle, yn “ffars” yn ôl un rhiant.

Mae’n benderfyniad “byrbwyll” yn ôl Nerys Evans, sy’n rhiant yn Ysgol Gynradd Aberbanc, un o’r ysgolion sy’n debygol o gau yn sgîl penderfyniad y cyngor heddiw.

“Roedd y penderfyniad wedi ei wneud cyn iddyn nhw fynd i mewn i’r cyfarfod”, honnodd wrth golwg360.

Mae Nerys Evans yn rhan o grŵp gweithredu sydd wedi cael ei sefydlu i wrthwynebu amcanion y cyngor.

Dywedodd aelod arall o’r grŵp, Gethin Jones, sy’n riant yn ysgol Pontsian, fod rhieni a disgyblion yn teimlo’n siomedig, ond “heb ein synnu”.

Mae’n honni fod y penderfyniad yn mynd yn groes i ddemocratiaeth, ac yn cadarnhau rhagfarn yn erbyn ysgolion pentrefol. Bydd y grŵp yn rhoi pwysau ar y cyngor i ailystyried y mater, meddai.

“Mae’r penderfyniad yma wedi ei gymryd yn groes i egwyddorion democratiaeth yn ogystal â’r egwyddor o wrando ar farn rhieni,” meddai.

“Ychydig sylw a roddwyd i’n arolwg oedd yn dangos fod 97.3% o rieni a ymatebodd i holiadur y Grŵp Gweithredu, yn gwrthwynebu datblygu ysgol 3-19 yn ardal Llandysul.

“Mae hyn yn cadarnhau’r rhagfarn sydd gan Cyngor Ceredigion yn erbyn ysgolion pentrefol. Mae’n benderfyniad annoeth a pheryglus a fydd yn arwain at dranc y cymunedau gwledig yn y rhan yma o Geredigion ac yn peryglu dyfodol addysg cyfrwng Cymraeg yn Nyffryn Teifi.

“Rydym yn awr yn galw ar aelodau Cyngor Sir Ceredigion i ail ystyried y penderfyniad yma, fel eu bod yn cael trafodaeth gynhwysfawr ar y mater hwn, gan roi ystyriaeth deg i’r dystiolaeth a ddarparwyd gan rieni.”

Penderfyniad y Cyngor

Penderfynodd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion heddiw, mewn egwyddor, i sefydlu ysgol cyfrwng cyflawn Gymraeg ar gyfer disgyblion oed 3-19 yn ardal Llandysul.

Roedd pob un o wyth aelod y cabinet o blaid y cynllun.

Ond derbyniodd benderfyniad Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol Trewen i ffurfio ffederasiwn o ysgolion ardal gyda’r ysgolion yng Nghenarth a Beulah.

Roedd y Cabinet wedi ystyried adroddiad oddi wrth yr Adran Addysg a Gwasanaethau Cymunedol oedd yn argymell sefydlu’r ysgol newydd.

Roedd yr adroddiad, gan Cefin Campbell ac Alun Charles, yn dweud y dylid adeiladu dwy ysgol 3-19 oed, un yn Llandysul a’r llall yn Nhregaron.

Yn ardal Llandysul byddai Ysgolion Uwchradd Dyffryn Teifi yn cau, yn ogystal ag ysgolion cynradd Llandysul, Coed-y-bryn, Aberbanc, Pont-siân a Chapel Cynon.

Yn ardal Tregaron byddai Ysgol Uwchradd Tregaron yn cau, yn ogystal ag Ysgolion Cynradd Tregaron, Llanddewi Brefi, Llangeitho, Bronant, Lledrod a Phenuwch.

Bydd y penderfyniad ynglŷn ag ysgolion ardal Tregaron yn cael ei wneud ar 6 Gorffennaf.