Mae heddwas a ddefnyddiodd ei awdurdod i ofyn i fenywod am ryw pan oedd ar ddyletswydd wedi cael ei garcharu am dair blynedd a hanner.

Fe glywodd Llys y Goron Caerdydd bod Jamie Slater yn cynnig esgusodi menywod o droseddau gyrru pe baen nhw’n cytuno i gwrdd ag ef neu roi eu rhif ffôn symudol iddo.

Roedd yr heddwas hefyd wedi defnyddio cronfa ddata’r heddlu er mwyn chwilio am fanylion personol pobol.

Ar un achlysur fe stopiodd Jamie Slater menyw oedd yn gyrru gyda thrwydded yrru dros dro. Fe rybuddiodd y fenyw y byddai’n rhaid iddo gymryd y car oddi arni.

“Fe achosodd hynny i’r fenyw ofidio ac fe ddechreuodd hi lefain,” meddai’r erlynydd Peter Davies.

“Yna dywedodd Jamie Slater na fyddai’n mynd a’i char pe bai’n rhoi ei rhif ffôn symudol iddo.”

Negeseuon sarhaus

Clywodd y llys bod yr heddwas a’r fenyw wedi cychwyn ar berthynas cydsyniol, ac ar un achlysur roedd y ddau wedi cwrdd tra oedd Jamie Slater ar ddyletswydd.

Pan ddaeth gŵr y fenyw i wybod am ei pherthynas gyda’r heddwas, fe ddefnyddiodd Jamie Slater cronfa ddata’r heddlu i ganfod manylion personol y gŵr ac anfon negeseuon sarhaus ato.

Dywedodd yr erlynydd bod dioddefwyr gweithredoedd Jamie Slater yn teimlo nad oedd dim alle nhw ei wneud am ei fod o’n heddwas.

Wrth ei ddedfrydu, fe ddywedodd yr Ustus Lloyd Jones iddo gam ddefnyddio ei awdurdod.

“Roedd y troseddau yma wedi achosi llawer o straen i’r dioddefwyr,” ychwanegodd yr Ustus Lloyd Jones. “Mae eich gweithredodd wedi achosi difrod enfawr i’r hyder cyhoeddus yn yr heddlu.”