Mae ymgyrchwyr yng Ngwynedd yn pryderu am edrychiad ac effaith amgylcheddol y ganolfan gelfyddydau newydd £35 miliwn fydd yn cael ei chodi yn lle Theatr Gwynedd.
Ar ôl ei gwblhau, bydd prosiect Pontio Bangor yn cynnwys theatr gyda rhwng 450 a 550 o seddi, sinema, theatr stiwdio, ac amffitheatr awyr agored.
“Mae’r Ganolfan yn mynd i fod yn fawr iawn. Mae’n mynd i fod yn strwythur concrit mawr sy’n edrych fel byncer – dyw hi ddim yn ddeniadol,” meddai Rick Mills o Gyfeillion y Ddaear Gwynedd a Môn wrth Golwg360.
“Dyna’r consensws gyffredinol ar ôl i ni siarad gyda phobol a dangos y cynlluniau iddyn nhw.”
Mae Cyfeillion y Ddaear Môn a Gwynedd hefyd yn pryderu ynglŷn a “nifer y coed fydd yn cael eu torri i lawr” er mwyn codi’r adeilad.
“Fe fydden ni’n hoffi petai’r Brifysgol yn ymrwymo i ail-blannu’r un nifer o goed ac y maen nhw’n dorri i lawr ar y safle.
“Mae gan Llywodraeth Cynulliad Cymru darged y dylai bob adeilad cyhoeddus newydd fod yn garbon niwtral erbyn 2011.
“Erbyn i’r adeilad hwn gael ei orffen, fe fydd hi’n 2011 ac fe fydden ni’n hoffi gweld adeilad carbon niwtral.”