Mae cwmni Barcud yng Nghaernarfon yn cau gan golli 35 o swyddi.
Ac mae cwmni Antena yn y dref hefyd yn diswyddo 25 o’u 55 o weithwyr ar ôl i’w gwaith leihau.
Roedd cyfarfod i’r gweithwyr am 11am bore ma er mwyn dweud wrthon nhw fod swyddi’n mynd.
Ar hyn o bryd, dyw hi ddim yn glir beth sy’n digwydd i rannau eraill o grŵp Barcud Derwen ar ôl i’r cyfrifwyr Grant Thornton ddechrau ceisio dod o hyd i brynwyr.
Mae Golwg360 hefyd yn deall bod llawer o weithwyr ffrilans yn aros am gael eu talu am waith i’r grŵp.
Fe ddaeth yn amlwg fis diwetha’ fod y grŵp mewn trafferth ac mai’r unig ddewis oedd gwerthu neu fynd i ddwylo gweinyddwyr.
Mae’r bai’n cael ei roi ar fethiant cwmni a brynodd y grŵp yn Iwerddon, ar fuddsoddi mewn technoleg newydd ac ar newidiadau yn y byd darlledu.
Roedd stiwdio Barcud ar stad Cibyn yn y dre’n symbol o’r diwydiant teledu yn y Gogledd.
Mae AS Arfon, Hywel Williams, wedi mynegi ei “bryder dwfn” ynglŷn â’r colli swyddi.
“’Dw i wedi fy siomi ynglŷn â’r colledion swyddi yng nghwmni Barcud ac Antena. Mae’r bobl hyn wedi cyfrannu cymaint at ddatblygiad teledu Cymraeg,” meddai.
“Bydd hyn yn ergyd fawr i’r diwydiant teledu yn y gogledd. ‘Dw i hefyd yn ofni y bydd pobl dalentog yn cael eu gorfodi i symud i ganolfannau cynhyrchu eraill – i ffwrdd o Gaernarfon a Gogledd Cymru.”
Fe ddywedodd yr AS ei fod wedi cysylltu gydag Undeb Bectu a’i fod yn galw ar gyflogwyr i dalu gweithwyr a gweithwyr ffrilans am unrhyw waith y maen nhw wedi’i wneud.
Cyfnod ‘anodd’
Dywedodd Huw Roberts o Gaernarfon ei fod o wedi bod yn gweithio i’r cwmni ers iddi ddechrau 28 mlynedd yn ôl a bod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn “anodd”.
“Mae bron i bawb wedi cael llythyr diswyddo, tua 30 ohonom ni i gyd, a dyw’r lleill ddim yn gwybod lle maen nhw’n sefyll eto,” meddai.
“Dydan ni’n dal ddim yn siwr ynglŷn â dyfodol rhai adrannau o fewn y cwmni. Mae’n dal i gael ei drafod ar hyn o bryd.
“Fe gafodd y staff wybod ddoe y byddai yna gyfarfod i’r staff i gyd am 11am bore ‘ma, ac y byddai’r gweinyddwyr yno.
“Roedd pawb yn amau beth fyddai’r cyhoeddiad ond doedden ni ddim yn bendant. Ond roedd pawb yn ymwybodol ers dyddiau y byddai hyd yn digwydd yn fuan.
“Mae’r sefyllfa ariannol wedi bod yn anodd i bawb wrth gwrs, a mae banciau wedi bod yn gofyn am ad-daliadau yn fwy buan.
“A dweud y gwir roedden ni’n eithaf prysur dros y flwyddyn diwethaf ond mae adrannau gwahanol o fewn Barcud wedi bod yn llyncu arian ac mae arian wedi mynd ar dalu benthyciadau.
“Roedd nifer o gyfranddalwyr, gan gynnwys nifer o’r staff, wedi buddsoddi arian yn y dechrau ond fe fydd o’n werth dim byd erbyn hyn.
“Dwi’n siwr bod nifer o unigolion, ac yn sicr rhai o’r cyfarwyddwyr, wedi colli lot fawr o arian.
Clec i Gaernarfon
Ychwanegodd bod y cyhoeddiad yn glec i’r ardal ac y byddai’n anodd i’r gweithwyr yno ddod i o hyd i waith newydd.
“Fe fydd rywfaint o’r staff yn chwilio am waith llawrydd ond o ran swyddi parhaol does dim byd yn yr ardal ar hyn o bryd.
“Mae yna lot o bobol ifanc gyda teuluoedd wedi colli eu gwaith. Bydd rhaid i nifer chwilio am waith gwahanol, gan fy nghynnwys i, a bydd hynny ddim yn hawdd dyddiau yma.
“Roedd Barcud yn gyflogwr mawr i’r ardal ac fe fydd yna lot o bobol ar y clwt o hyn ymlaen. Fe fydd hynny’n golygu bod staff methu gwario yn y siopau lleol a bod cyflenwyr yn colli busnes.”
Dywedodd Huw Roberts fod yna sawl ffactor allai fod wedi arwain at roi’r cwmni yn nwylo’r gweinwyddwyr.
“Roedd y cwmni wedi ehangu yn ormodol o bosib, y tu allan i Gymru er mwyn lleihau’r dibyniaeth ar S4C,” meddai. “Roedd o’n ymddangos yn syniad da ar y pryd.
“Roedd Barcud wedi prynu nifer o gwmniau dros y blynyddoedd, gan gynnwys un buddsoddiad yn Iwerddon gollodd tua £2 filiwn i’r cwmni. Dw i ddim yn credu bod y cwmni byth wedi dod dros hynny.
“Ond dros y blynyddoedd roedd yr elw o gyfeiriad S4C wedi dirywio, ac roedd o’n talu ei ffordd i edrych am waith y tu allan i’r sianel.
“Roedd S4C wedi crebachu ac eisiau arbed arian, ac wedi bod yn gofyn am gyfresi newydd, weithiau gyda mwy o raglenni, am lai o arian.
“Roedd offer newydd ar gyfer rhaglenni HD – neu Clirlun fel mae S4C yn ei alw – hefyd yn ddrud iawn.
“Roedd stiwdio Barcud wedi ei adeiladu’n bwrpasol ond roedd o’n wag dros y blynyddoedd am nad oedd S4C yn gwneud rhaglenni ar raddfa digon mawr i’w lenwi.”
“Mae’n siwr bod pobol yng Nghaerdydd hefyd yn teimlo nad ydyn nhw’n cael digon o waith, ond roedd yna’n sicr deimlad bod S4C yn ffafrio cwmniau yn y de.
“Roedd Iona Jones i fyny yma ym mis Mawrth a doedd hi ddim i weld yn ymwybodol ei fod o’n argyfwng arnom ni. Ond dyma realiti’r sefyllfa.
“Rydw i’n meddwl y dylen nhw’n sicr gael gwared ar benaethiaid S4C.”
(Lluniau: Huw Roberts)