Dylai cynghorau lleol baratoi am “ddyfroedd cythryblus” dros y blynyddoedd nesaf wrth i wariant ar y sector gyhoeddus gael ei dorri.
Dywedodd y Gweinidog Awdurdodau Lleol, Carl Sargeant, y byddai’n rhaid i gynghorau ddechrau cyd-weithio er mwyn darparu gwasanaethau’n fwy effeithlon.
Mae Llywodraeth y Cynulliad eisoes yn paratoi ar gyfer derbyn 3% yn llai o gyllideb, ond bydd cyllideb y Canghellor yr wythnos nesaf yn datgelu mwy o fanylion ynglŷn â’r rhagolwg yn y tymor hir.
Dyw gweinidogion ym Mae Caerdydd ddim wedi cyhoeddi eto a ydyn nhw’n mynd i dderbyn cynnig Llywodraeth San Steffan i oedi’r toriadau £160 miliwn tan y flwyddyn ariannol nesaf.
Fe fyddai hynny’n gwarchod eu cyllideb £16 biliwn ar gyfer 2010/11.
“Rydym wedi cynnal trafodaethau hir iawn gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fel corff a gyda rhai cynghorau ar wahân ac wedi pwysleisio pa mor anodd fydd pethau yn y dyfodol,” meddai.
“Mae rhai cynghorau wedi dangos eu bod nhw’n barod iawn i gydweithio.
“Ond rydw i’n meddwl bod unrhyw gyngor sy’n credu y bydd popeth yn iawn yn y dyfodol yn gwneud camgymeriad mawr.
“Rydw i’n disgwyl y bydd y gwasanaethau sydd ar gael i ddinasyddion Cymru o safon uchel a heb eu peryglu am nad yw pobol yn barod i newid.
“Mae yna gyllideb argyfwng y mis yma ac rydym ni’n disgwyl i weld y ffigyrau rheini er mwyn gweld faint o effaith fydd yna ar wasanaethau ar draws Llywodraeth y Cynulliad.”
Dywedodd nad oedd o eto wedi ystyried codi’r uchafswm 5% mewn treth cyngor.
“Mae’n rhywbeth y bydd rhaid i fi ei ystyried o ddifrif pan ydw i’n gwybod faint o arian sydd ar gael,” meddai.