Hyd heddiw mae dros 5,000 o bobol wedi cwyno am gamgymeriad darlledu ITV ar ei sianel HD yn ystod gôl Lloegr yn erbyn yr Unol Daleithiau..
Fe gafodd tua 20 eiliad o’r darllediad ei golli ym munudau agoriadol y gêm ac fe fethodd tua 1.5 miliwn o bobl Steven Gerrard yn sgorio.
Ond doedd dim problem gan 15 miliwn o bobl oedd yn gwylio’r darllediad arferol o’r gêm ar ITV 1.
Mae ITV wedi dweud nad nhw oedd ar fai am y broblem, ond yn hytrach mai camgymeriad rhywun yng nghwmni Technicolour. a oedd yn darparu’r darllediad, oedd wedi achosi i lluniau’r gêm ddiflannu.
Mae ITV wedi ymddiheuro gan ddweud eu bod nhw wedi cymryd camau i sicrhau na fydd yr un peth yn digwydd eto.
Dywedodd cyfarwyddwr technoleg ITV, Richard Cross bod y darlledwyr wedi cyfarfod gyda Technicolour i fynd i’r afael â’r broblem.