Mae Paul Thorburn yn gadael ei rôl fel Rheolwr Datblygu Strategaeth y Gweilch ar ôl pedair blynedd gyda’r rhanbarth.

Fe ymunodd cyn chwaraewr rhyngwladol Cymru gyda’r Gweilch yn 2006 ar ôl gadael ei swydd gydag Undeb Rygbi Cymru.

Paul Thorburn oedd cyfarwyddwr twrnamaint pan gynhaliwyd Cwpan Rygbi’r Byd Cymru yn 1999.

Daw’r newyddion fel syndod ar ôl i’r Gweilch gipio’r Cynghrair Magners y tymor diwethaf. Ond mae’r Cymro wedi dweud ei fod yn barod i ddilyn diddordebau busnes eraill.

“Mae’r pedair blynedd diwethaf wedi bod ymysg y rhai gorau yn fy mywyd, ac mae sicrhau cytundebau gyda noddwyr i ddod a sefydlogrwydd i’r rhanbarth am ddwy neu tair blynedd yn ddymunol iawn,” meddai Thorburn.

“Mae ‘na atgofion cofiadwy hefyd, gan gynnwys ennill y Cwpan EDF yn 2008, y fuddugoliaeth yn erbyn Awstralia yn 2006 a’r llwyddiannau diweddar yn Nghynghrair Magners.”