Mae’n amser i Gyngor Caerdydd ac i wleidyddion o bob plaid roi’r gorau i chwarae gemau gwleidyddol â dyfodol addysg plant yng Nghaerdydd.
Dyma neges grŵp ymgyrchu rhieni ysgolion Cymraeg Treganna a Than yr Eos heddiw, wrth fynnu y dylai’r awdurdod lleol bwyso am Adolygiad Barnwrol o benderfyniad Prif Weinidog Cymru i wrthod argymhellion i ail-drefnu ysgolion y ddinas.
“Wnaiff dim arall y tro ar gyfer plant Treganna a Than yr Eos nac yn wir ar gyfer talwyr Treth y Cyngor Caerdydd sydd eisoes dan bwysau o orfod sybsideiddio miloedd o lefydd gwag yn ysgolion dinas Caerdydd,” meddai cadeirydd y grŵp, Morgan Hopkins.
“Ar hyn o bryd dengys ffigurau’r Cyngor ei hun fod y pedair ysgol cyfrwng Saesneg yn y ward yn chwarter gwag tra bod y ddwy ysgol cyfrwng Cymraeg yn y ward yn llawn, gydag Ysgol Treganna yn erchyll o orlawn ac yn gorfod gweithredu ar draws tri safle.
“Mae i’r Prif Weinidog wrthod cynlluniau ad-drefnu ysgolion Dinas Caerdydd ar y cynsail y gallasent o bosib ar ryw adeg amhenodol yn y dyfodol effeithio yn negyddol ar y ddarpariaeth addysg cyfrwng Saesneg yn y ward, tra bod disgyblion ysgol Gymraeg Treganna eisoes yn dioddef oherwydd y diffyg darpariaeth, yn gwbl anhygoel.”
Gwrthododd Carwyn Jones gynllun Cyngor Dinas Caerdydd i gau ysgol cyfrwng Saesneg Lansdowne, a’i symud i safle arall, er mwyn rhoi’r adeilad i Ysgol Treganna.
Roedd hyn, yn ôl y cyngor, yn torri ar lefydd gwag yn yr ysgol Saesneg ac yn ymateb i’r galw am addysg Gymraeg, yn unol â gofynion Llywodraeth y Cynulliad.
Ond roedd cefnogwyr Ysgol Lansdowne hefyd wedi cynnal ymgyrch gref i wrthwynebu’r cynnig.