Mae cwmni Barcud yng Nghaernarfon yn cau gan golli 35 o swyddi.

Ac mae cwmni Antena yn y dref hefyd yn diswyddo 25 o’u 55 o weithwyr ar ôl i’w gwaith leihau.

Roedd cyfarfod o’r gweithwyr bore yma ac, yn ôl yr adroddiadau sy’n dod oddi yno, fe gawson nhw glywed y bydd eu swyddi’n mynd.

Ar hyn o bryd, dyw hi ddim yn glir beth sy’n digwydd i rannau eraill o grŵp Barcud Derwen ar ôl i’r cyfrifwyr Grant Thornton ddechrau ceisio dod o hyd i brynwyr.

Mae Golwg360 hefyd yn deall bod llawer o weithwyr ffrilans yn aros am gael eu talu am waith i’r grŵp.

Fe ddaeth yn amlwg fis diwetha’ fod y grŵp mewn trafferth ac mai’r unig ddewis oedd gwerthu neu fynd i ddwylo gweinyddwyr.

Mae’r bai’n cael ei roi ar fethiant cwmni a brynodd y grŵp yn Iwerddon, ar fuddsoddi mewn technoleg newydd ac ar newidiadau yn y byd darlledu.

Roedd stiwdio Barcud ar stad Cibyn yn y dre’n symbol o’r diwydiant teledu yn y Gogledd.

Llun: Barcud (llun o wefan y cwmni)