Bydd apêl yn cael ei ddarlledu ar raglen Crimewatch heno, am wybodaeth am ladrad arfog a ddigwyddodd yn Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy.

Roedd criw o bedwar o ddynion yn gwisgo mygydau, wedi bygwth gyrrwr lori â dryll cyn dwyn llwyth gwerth miloedd o bunnoedd o grysau pêl-droed Lloegr.

Digwyddodd y lladrad yn Drome Road, am tua 8am, ddydd Mercher, 17 Chwefror.

Roedd y dynion wedi cipio’r lori, ac wedi gorfodi’r gyrrwr 37 oed mewn i gar ac i wisgo mwgwd cyn cael ei adael yn rhydd yn ardal Wigan.

Llofruddiaeth

Bydd rhaglen Crimewatch hefyd yn cynnwys apêl am wybodaeth am lofruddiaeth Ffion Wyn Roberts o Borthmadog.

Mae’r heddlu’n credu bod ganddyn nhw luniau teledu cylch cyfyng ohoni tua 600 llath o’i chartref.