Doedd Heddlu Gogledd Cymru “ddim yn gyfrifol” am lofruddiaeth Karen McGraw gan ei phartner Trevor Ferguson.
Ond yn ôl adroddiad gan y Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) fe fethodd yr heddlu ar “sawl achlysur i asesu’r perygl cynyddol yr oedd hi’n ei wynebu a delio gyda’i phryderon”.
Dywedodd yr IPCC nad oedd Heddlu Gogledd Cymru wedi dilyn eu polisïau a’u harferion da eu hunain wrth ddelio gyda chamdriniaeth yn y cartref.
Fe fu farw Karen McGraw, 50 oed, ar 23 Mehefin 2009 yn ei chartref yn Tecwyn, Cei Connah. Cafoddei phartner Trevor Ferguson ei garcharu am oes am ei thrywanu hi i farwolaeth.
“Cafodd Karen McGraw ei llofruddio mewn modd erchyll ac mae gan y teulu bob hawl i gael gwybod a fyddai wedi bod yn bosib gwneud mwy i’w hachub hi,” meddai Comisiynydd yr IPCC yng Nghymru, Tom Davies.
“Mae ein hymchwiliad ni yn dangos y gallai ,ac y dylai, mwy fod wedi ei wneud i ddarparu’r gefnogaeth a’r diogelwch oedd ei angen arni.
“Dyw hyn ddim yn golygu y byddai wedi bod yn bosib atal ei llofruddiaeth, a Ferguson ar ei ben ei hun oedd yn gyfrifol am y drosedd erchyll.
“Mae camdriniaeth yn y cartref yn drosedd anodd iawn i’r heddlu ymdrin ag o. Mae’r arbenigwyr yn cytuno ei fod o’n hanfodol fod swyddogion yn cymryd nodiadau ac yn cadw cofnodion llawn.
“Mae hynny’n helpu wrth asesu’r risg yn gywir a sicrhau bod modd gweithredu wedyn os oes angen.”