Mae Cynor Ceredigion wedi penderfynu bwrw ymlaen gyda’r cynlluniau i gau ysgolion cynradd ac uwchradd yn ardal Llandysul er mwyn sefydlu un ysgol 3-19 oed yn eu lle.
Roedd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion yn ystyried adroddiad oddi wrth yr Adran Addysg a Gwasanaethau Cymunedol oedd yn argymell sefydlu’r ysgol newydd.
Roedd yr adroddiad, gan Cefin Campbell ac Alun Charles, yn dweud y dylid adeiladu dwy ysgol 3-19 oed, un yn Llandysul a’r llall yn Nhregaron.
Yn ardal Llandysul byddai Ysgolion Uwchradd Dyffryn Teifi yn cau, yn ogystal ag ysgolion cynradd Llandysul, Coed-y-bryn, Aber-banc, Pont-siân a Chapel Cynon.
Yn ardal Tregaron byddai Ysgol Uwchradd Tregaron yn cau, yn ogystal ag Ysgolion Cynradd Tregaron, Llanddewi Brefi, Llangeitho, Bronant, Lledrod a Phenuwch yn cau.
Penderfynodd y Cabinet, mewn egwyddor, i sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg syth-drwyddo ar gyfer disgyblion oed 3-19 yn ardal Llandysul.
Ond derbyniodd benderfyniad Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol Trewen i ffurfio ffederasiwn o ysgolion ardal gyda’r ysgolion yng Nghenarth a Beulah.
Bydd y penderfyniad ynglŷn ag ysgolion ardal Tregaron yn cael ei wneud ar 6 Gorffennaf.
Ymgyrchu
Yn y cyfamser mae rhieni wedi ffurfio grŵp gweithredol i frwydro yn erbyn y cynlluniau i adeiladu’r ysgol 3 i 19 oed.
Mae’r grŵp gweithredu Achubwch Ysgolion Cynradd Ardal Llandysul yn gynrychioladol o’r rhieni sydd â phlant yn y 5 ysgol gynradd fydd yn cael eu cau os aiff y cynllun yma drwodd; sef ysgolion Aberbanc, Capel Cynon, Coed y Bryn, Llandysul a Pontsiân.
“Yn dilyn gwybodaeth oddi wrth Gyngor Sir Ceredigion ynglŷn â chanlyniadau eu holiadur, a ddangosodd fod 63% o’r rhai a atebodd o blaid yr argymhelliad i greu ysgol 3 – 19, penderfynodd y grŵp gweithredol i drefnu eu holiadur eu hunain,” meddai Nerys Evans sy’n rhiant yn ysgol Aberbanc ac yn aelod o’r grŵp gweithredol .
“Dim ond 10% a atebodd i holiadur y Cyngor gyda 37 o’r 68 ateb gan staff Ysgol Dyffryn Teifi ac Ysgol Pont Siân, dwy ysgol sy’n rhannu’r un Pennaeth ac sydd wedi cefnogi’n gyhoeddus yr ysgol 3 – 19 oed!
“Danfonwyd holiadur y grŵp gweithredol at rieni’r pum ysgol. Atebodd 57% o’r rhieni ac o’r rhain roedd 97.3% yn erbyn cau eu hysgol gynradd er mwyn adeiladu ysgol ar gyfer oed 3 i 19!”
“Mae rhieni yn y pum ysgol sydd o dan fygythiad wedi gwneud eu barn yn glir. Mae 97.3% o’r rhai a atebodd i holiadur y grŵp gweithredol ddim yn credu fod yr ysgol 3 i 19 arfaethedig yn ateb i’r angen i ddatblygu addysg yn yr ardal.
“Rhaid i aelodau Cyngor Sir Geredigion a’u hadran addysg ymchwilio ar frys i opsiynau eraill ar gyfer ein cymunedau.”