Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan wedi dweud y dylai’r refferendwm datganoli ddigwydd yn ystod tri mis cynta’ 2011.
Fe ddywedodd na fyddai modd cynnal y refferendwm ar ragor o bwerau i’r Cynulliad yr hydref yma, fel yr oedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi gofyn.
Mewn llythyr at y Prif Weinidog, dywedodd Cheryl Gillan na fyddai’n bosib rhoi’r mesur ddrafft o flaen y Senedd o fewn y cyfnod 120 diwrnod. Roedd hi’n rhoi’r bai ar y Llywodraeth Lafur am lusgo traed.
“Rydych chi a fi a’r Dirprwy Brif Weinidog wedi trafod amserlen posib ar gyfer refferendwm,” meddai wrth Carwyn Jones.
“Yn sgil y trafodaethau hynny rydym wedi penderfynu y dylid cynnal y refferendwm cyn diwedd chwarter cyntaf 2011.”
Yr amserlen hyd yn hyn
Ar 9 Chwefror y pleidleisiodd Cynulliad Cymru o blaid cynnal y refferendwm.
Ar ôl hynny, roedd rhaid i Ysgrifennydd Cymru roi mesur drafft y refferendwm o flaen Senedd San Steffan o fewn 120 diwrnod neu esbonio pam na fedrai hi wneud hynny.
Yn y cyfamser, fe ddaeth yr Etholiad Cyffredinol ddechrau Mai ac fe ddaeth yn amlwg wedyn nad oedd cwestiwn y refferendwm wedi ei bennu.
Fe aeth yn ffrae rhwng Cheryl Gillan a’i rhagflaenydd, Peter Hain, a hithau’n ei gyhuddo o laesu dwylo.
Datganiad Cheryl Gillan
“Y prif reswm nad ydw i’n gallu rhoi’r mesur ddrafft o flaen San Steffan cyn 17 Mehefin 2010 yw’r amgylchiadau ydw i wedi eu hetifeddu gan y llywodraeth flaenorol,” meddai Cheryl Gillan.
“Roedd eich penderfyniad na ddylai dyddiad a chwestiwn y refferendwm gael eu hystyried tan ar ôl yr Etholiad Cyffredinol yn golygu nad ydyn ni eto wedi cyflwyno’r cwestiwn i’r Comisiwn Etholiadol.”
Dywedodd bod angen o leiaf 10 wythnos ar y Comisiwn Etholiadol er mwyn asesu’r cwestiwn a chwblhau ei adroddiad.
“Er hynny mae Llywodraeth Glymblaid Prydain yn ymroddedig i gynnal y refferendwm, ac fe fydd yn rhoi’r mesur ddrafft o flaen San Steffan mor fuan ag y bo modd ar ôl derbyn adroddiad y Comisiwn Etholiadol ar y cwestiwn.”