Mae Cheryl Gillan wedi datgan y bydd refferendwm cyn diwedd Mawrth 2011. Fe allai fod wedi digwydd ynghynt oni bai am Peter Hain meddai hi. Dyma’r datganiad yn llawn.
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi cyhoeddi heddiw y dylai refferendwm ar bwerau ychwanegol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael ei gynnal cyn diwedd chwarter cyntaf 2011.
Mewn llythyr at Brif Weinidog Cymru, dywedodd Mrs Gillan ei bod, yn unol ag adran 1 04(3)(b) Deddf Llywodraeth Cymru 2006, yn ysgrifennu ato i’w hysbysu na allai osod y Gorchymyn refferendwm drafft yn y Cyfrin Gyngor gerbron y Senedd o fewn y cyfnod 120 diwrnod, a hynny oherwydd amgylchiadau yr oedd wedi’u hetifeddu gan y weinyddiaeth flaenorol.
Meddai Mrs Gillan: “Rydych chi a minnau, a Dirprwy Brif Weinidog Cymru, wedi trafod amserlen bosib ar gyfer y refferendwm, gan ystyried yr holl gamau y mae angen eu dilyn er mwyn paratoi ar ei gyfer. Yng ngoleuni ein trafodaeth, rydym wedi cytuno y dylem anelu at gynnal refferendwm cyn diwedd chwarter cyntaf 2011.”
Ar 17 Chwefror 2010, ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru at Ysgrifennydd Gwladol blaenorol Cymru i’w hysbysu am benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 9 Chwefror i alw am refferendwm ar ragor o bwerau deddfu i’r Cynulliad. Roedd hyn yn ysgogi gofyniad statudol i’r Ysgrifennydd Gwladol naill ai osod Gorchymyn drafft yn y Cyfrin Gyngor dan adran 103(1) Deddf Llywodraeth Cymru (Gorchymyn refferendwm drafft) gerbron y Senedd, neu wrthod gwneud hynny a rhoi rhesymau dros wrthod, o fewn y cyfnod 120 diwrnod sy’n dod i ben ar 17 Mehefin 2010.
Meddai Mrs Gillan: “Yr amgylchiadau yr wyf wedi’u hetifeddu gan y weinyddiaeth flaenorol yw’r prif reswm na allaf osod y Gorchymyn drafft o fewn y cyfnod sy’n dod i ben ar 17 Mehefin 2010. Oherwydd yr amgylchiadau hyn, nid wyf wedi gallu cyflawni fy nyletswydd, a nodir yn adran 104(4) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, i ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol ynghylch geiriad cwestiwn y refferendwm, ac o ganlyniad, nid yw’r Comisiwn Etholiadol wedi profi nac adrodd ynghylch eglurder y cwestiwn eto. Gan i chi benderfynu na ddylid ystyried y dyddiad na’r cwestiwn tan ar ôl yr Etholiad Cyffredinol, nid ydym eto wedi cyflwyno cwestiwn i’r Comisiwn Etholiadol, sydd wedi cadarnhau y bydd arno angen o leiaf 10 wythnos i gynnal asesiad ac yna i adrodd yn ei gylch. Mae hyn yn anochel yn arwain at sefyllfa lle na allwn osod y Gorchymyn refferendwm erbyn 17 Mehefin 2010.
Ychwanegodd: “Fodd bynnag, mae Llywodraeth glymblaid y DU wedi ymrwymo o hyd i wneud yn siŵr bod y refferendwm yn mynd rhagddo, ac i osod y Gorchymyn refferendwm drafft cyn gynted ag y bo modd, ar ôl derbyn adroddiad y Comisiwn Etholiadol ar y cwestiwn.
“Yn y cyfamser, rwy’n ddiolchgar am waith ein swyddogion yn llunio drafft o’r Gorchymyn refferendwm, a gobeithiaf y bydd y cydweithrediad hwn yn parhau dros y misoedd nesaf.”
[Roedd y fersiwn Gymraeg ar lein erbyn 17.6.10]