Mae cyfarwyddwr ariannol Tesco wedi rhybuddio na ddylai’r Llywodraeth gynyddu’r gyfradd Treth ar Werth yn y dyfodol agos.
Wrth i’r archfarchnad gyhoeddi cynnydd bychan iawn mewn gwerthiant, dywedodd Laurie McIlwee fod angen i Lywodraeth glymbleidiol Prydain ofalu nad yw’n difetha adfywiad economaidd bregus y Deyrnas Unedig.
Mae’n debyg bod y Canghellor, George Osborne, yn ystyried cyhoeddi cynnydd mewn Treth ar Werth yn ei Gyllideb yr wythnos nesaf, fel rhan o’i fwriad i fynd i’r afael â’r diffyg yn y pwrs cyhoeddus.
Ond os oes rhaid cynyddu treth ar werth, meddai Laurie McIlwee, fe ddylai hynny ddigwydd yn nes ymlaen pan mae’r economi’r gryfach.
Daw ei rybudd wrth i Tesco gyhoeddi cynnydd o ddim ond 0.1% mewn elw rhwng mis Mawrth a mis Mai.
Cynnydd ym mhris petrol a chwymp ym mhris bwyd oedd yn bennaf gyfrifol am hynny.