Mae’n bosib y bydd rhaid i ddisgyblion TGAU Saesneg Cymru astudio’r ffordd y mae Charlotte Church yn siarad fel rhan o’r maes llafur.
Fe allai iaith sêr y rhaglen gomedi Gavin ad Stacey, Ruth Jones a Rob Brydon, hefyd fod ar y maes llafur ar gyfer y disgyblion.
Mae bwrdd arholi OCR Cymru wedi rhestru’r enwogion ymhlith astudiaethau enghreifftiol mewn cwrs newydd ar Saesneg llafar.
“Mae’n ffordd o wneud i’r disgyblion uniaethu gyda phersonoliaethau y maen nhw’n eu nabod, yn hytrach na defnyddio hen rai llychlyd o’r gorffennol,” meddai cyfarwyddwr OCR Cymru, Robin Hughes, wrth bapur newydd y Sun.
Datgelwyd yn gynharach y mis yma y byddai disgyblion TGAU Lloegr yn astudio areithiau Barack Obama a sioeau stand-yp Eddie Izzard.