Miriam James sy’n adolygu ‘Dacw’r Drws’…
Tomos Wyn oedd y canwr buddugol yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2010, gyda’i berfformiad o ‘Bws i’r Lleuad’ gan Alun Tan Lan. Erbyn hyn mae wedi rhyddhau EP o ganeuon a gyfansoddwyd gan Elfed Morgan Morris a Lowri Watcyn Roberts.
Lansiwyd CD Tomos Wyn a’r Band, sef EP 4 trac, yn Eisteddfod yr Urdd Llanerchaeron. Cyfansoddwyd y geiriau a’r gerddoriaeth gan Elfed Morgan Morris a Lowri Watkyn Roberts ond digon hawdd fyddai credu mae geiriau Tomos Wyn ei hun a glywn.
Mae’r naws yn un ysgafn ar y cyfan, gyda digon o egni sy’n rhoi teimlad da i’r gwrandäwr. Mae’r caneuon yn rhai bachog ac ambell lyric yn ddigon cofiadwy. Mae yna gryn amrywiaeth rhwng y bedair cân ond sydd oll â naws caneuon pop gyda gwedd glasurol.
Cân fywiog, llawn asbri llachar yw ‘Dacw’r Drws’ sy’n rhoi agoriad egnïol i’r CD. Mae iddi deimlad jaslyd, fel y drydedd cân ‘Y Fan’ sy’n anadlu naws hapus braf o fywyd ieuenctid melys. Cân sionc, llawn mynd yw ‘Y Fan’ sydd yn llawn egni ifanc.
Yn fwy ymlaciol mae’r bedwaredd gân ar y CD, ‘Pen y Daith’, sydd â naws pruddglwyfus wrth iddo hiraethu am amser serchus a fu. Cân serchog, angerddol a theimladwy yw ‘Adre’n ôl’ sy’n adlewyrchu llais perfformio Tomos Wyn yn ei anterth.
Os ydych chi’n chwilio am ganeuon sydd ag ystyr pell a dwfn, efallai na fydd y CD yma yn plesio. Ond os ydych chi’n un sydd yn eich elfen wrth wrando ar ganeuon sydd i ryw raddau yn gawslyd, bydd y CD hyn yn siŵr o’ch swyno.
Mae’r CD byr ond blasus hwn yn cynnig cerddoriaeth ddedwydd, ysgafnfryd sydd â naws jas melodaidd, a fydd yn siŵr o apelio at amrediad eang o bobl.
Beth ydy’ch barn chi am ‘Dacw’r Drws’? Anfonwch eich adolygiadau CD’s i ni gyhoeddi ar Golwg360 – cymorth@golwg.com