Cafodd newyddiadurwr ei saethu’n farw wrth gyflwyno sioe ganu yn y Pilipinas, dywedodd yr heddlu heddiw.

Saethwyd Desidario Camangyan o orsaf radio Sunshine FM yn ei ben mewn campfa yn nhref Manay yn rhanbarth Davao Oriental.

Roedd Desidario Camangyan, 52 oed, yn eistedd ar y llwyfan pan gafodd ei saethu o’r tu ôl.

Dihangodd y saethwr ar droed. Mae’r heddlu yn ceisio dyfalu beth oedd y tu ôl i’r ymosodiad, ac a oedd ganddo rywbeth i’w wneud gyda gwaith Desidario Camangyan.

Newyddiadurwyr yn marw

Mae cyfryngau’r Pilipinas ymysg y mwyaf rhydd yn ne ddwyrain Asia, ond mae hefyd ymysg y llefydd mwyaf peryglus i newyddiadurwyr.

Cafodd o leiaf 30 o newyddiadurwyr eu lladd mewn cyflafan yn nwyrain y wlad ar 30 Tachwedd y llynedd.

Cyn yr ymosodiad hwnnw roedd 75 o newyddiadurwyr wedi eu lladd yn y wlad ers 2001, yn ôl Cynghrair Rhyngwladol y Newyddiadurwyr.