Dylai Kyrgyzstan sefydlu ‘coridor dyngarol’ er mwyn rhoi cyfle i ffoaduriaid ddianc o’r wlad i Uzbekistan, yn ôl un o swyddigion mwyaf dylanwadol y Cenhedloedd Unedig.

Ac, yn ôl Lynn Pascoe, mae angen cymorth ar Uzbekistan i allu dygymod â’r degau o filoedd o ffoaduriaid sy’n cyrraedd yno.

Daeth ei sylwadau yn dilyn adroddiadau fod Uzbekistan yn ystyried cau ei ffiniau – y gred yw bod hyd at 80,000 o bobol wedi dianc yno hyd yn hyn, ond fod miloedd mwy bellach ar fin croesi’r ffin.

Mwy na 130 wedi marw

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi dweud fod o leiaf 138 o bobol wedi marw a 1,800 wedi eu hanafu ar ôl i ymladd ddechrau ddydd Gwener ddiwethaf yn ninasoedd deheuol Osh a Jalalabad.

Ond mae’r ffigurau go iawn lawer yn uwch na hynny, yn ôl llefarwyr ar ran yr Uzbekiaid yn Kyrgyzstan.

Mae’r Cyngor Diogelwch wedi condemnio’r trais, ac wedi pwysleisio’r angen “brys” am gymorth dyngarol i’r ardal.

Mae’n ymddangos taw Kyrgiaid sydd wedi bod yn ymosod ar Uzbekiaid – sy’n lleiafrif yn y wlad – gan losgi eu tai a’u busnesau.

Yn ôl adroddiadau, mae’r trais yn parhau.