Mae o leiaf 52 o bobol wedi marw ar ôl i gwch ddymchwel yng ngogledd India.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar afon Ganges ddoe – roedd o leiaf 70 o deithwyr ynddo, er ei fod wedi ei adeiladu i gario 30.

Ond dywedodd ynad lleol bod swyddogion yn amau bod o leiaf 100 o bobol ar y cwch, ar ôl siarad gyda phentrefwyr a chyfrif nifer y bobol oedd ar goll.

Merched a phlant yw’r rhan fwyaf o’r rhai a fu farw.

Dod o hyd i gyrff

Dywedodd Surendra Srivastava , llefarydd ar ran heddlu’r dalaith, bod gweithwyr achub wedi tynnu 52 corff o’r afon y bore yma.

Digwyddodd y ddamwain yn rhanbarth Ballia yn nhalaith Uttar Pradesh, 250 milltir i’r de-ddwyrain o’r brifddinas Lucknow.