Mae o leiaf 23 o bobol wedi marw ar ôl i law trwm achosi tirlithriadau yn ne orllewin Bangladesh.

Dywedodd awdurdodau’r wlad bod 19 o gyrff wedi eu tynnu allan o’r difrod mewn dwy ardal yn rhanbarth ddeheuol, arfordirol y wlad, a bod nifer o bobol eraill yn dal i fod ar goll.

Yn ôl un adroddiad, roedd tirlithriad wedi lladd pedwar o’r un teulu pan gafodd eu tŷ ei gladdu.

Mae’r gwaith achub yn cael ei arafu gan y glaw trwm sy’n dal i ddisgyn.