Fe fydd trefn newydd i archwilio cefndiroedd pobol sy’n gweithio gyda phlant yn cael ei thrawsnewid cyn iddi ddechrau.

Mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi rhoi stop ar baratoadau i gyflwyno’r cynllun Archwilio ac Atal ym mis Gorffennaf.

Yn lle hynny, meddai Theresa May, fe fydd yna adolygiad a newidiadau sylfaenol i’r drefn a oedd yn debyg o effeithio ar tua naw miliwn o bobol, gan gynnwys rhieni a gweithwyr gwirfoddol.

Roedd gwarchod plant yn bwysig iawn, meddai Theresa May, ond roedd angen i unrhyw gynllun fod yn “gymesur a synhwyrol”.

Protestio

Roedd llawer o grwpiau wedi protestio yn erbyn y drefn newydd a fyddai’n cael ei chynnal gan gorff o’r enw’r Awdurdod Diogelu Annibynnol.

Yr ofn oedd y gallai effeithio ar rieni a oedd yn cario plant pobol eraill yn eu ceir ac roedd eisoes wedi cael ei addasu i eithrio pobol fel awduron ar ymweliadau ag ysgolion.

Mae rhai mudiadau hawliau sifil wedi galw am ddileu’r cynllun yn llwyr. Roedd wedi ei ddatblygu ar ôl achos llofruddiaethau Soham pan ddaeth hi’n amlwg fod gwendidau yn y drefn o archwilio cefndiroedd.

Llun: Theresa May (Gwifren PA)