Mae yna bryder newydd ynglŷn â chost pensiynau yn y sector cyhoeddus, wrth i’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidol ddatgelu y bydd yn dyblu dros y pum mlynedd nesaf.
Erbyn 2015, bydd £10 biliwn o arian y trethdalwyr yn cael ei wario bob blwyddyn ar bensiynau miliynau o weithwyr yn y sector cyhoeddus, o’i gymharu gyda £4 biliwn eleni.
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg eisoes wedi rhybuddio nad ydi’r Llywodraeth yn gallu “fforddio” talu’r pensiynau.
Dywedodd y byddai’n rhaid i lywodraeth y glymblaid fynd i’r afael gyda phroblem pensiynau costus y sector gyhoeddus.
Adroddiad cyntaf
Dyma adroddiad cyntaf Y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidol ers i’r Canghellor George Osborne ei sefydlu fis diwethaf.
Y rheswm tros y cynnydd, meddai’r adroddiad, yw bod poblogaeth Prydain yn mynd yn hŷn, ac yn byw yn hwy.
Erbyn blwyddyn ariannol 2014-15 bydd pob cartref ym Mhrydain yn talu £4,000 bob blwyddyn am bensiynau’r sector cyhoeddus.
“Mae gweithwyr yn y sector preifat eisoes wedi gweld eu pensiynau yn colli eu gwerth,” meddai Nick Clegg.
“Ydy hi’n deg felly disgwyl iddyn nhw dalu eu trethi ar bensiynau costus y sector cyhoeddus? Nid yn unig mae’n annheg, mae’n amhosib ei fforddio.”