Mae disgwyl i Ysgrifennydd Cymru gadarnhau’n ffurfiol heddiw na fydd hi’n bosib cynnal refferendwm datganoli tan y flwyddyn nesa’.

Eisoes, roedd hi a Phrif Weinidog Prydain, David Cameron, wedi dweud mai dyna oedd eu barn nhw – er bod y Llywodraeth glymblaid yng Nghaerdydd eisiau pleidlais yn yr hydref.

Yn ôl y BBC, fe fydd y dyfalu’n cael ei gadarnhau heddiw wrth i Cheryl Gillan osod amserlen ar gyfer rhyw dro’r flwyddyn nesa’.

Roedd hi wedi awgrymu y byddai’n anodd i’r Comisiwn Etholiadol ystyried ac ymgynghori mewn pryd ynglŷn â chwestiwn y refferendwm.

Hydref 2011?

Yn ystod yr wythnosau diwetha’, mae prif swyddog cyfreithiol y Cynulliad wedi dod i gasgliad tebyg ac mae’r Llywydd,, Dafydd Elis-Thomas, wedi awgrymu mai hydref 2011 fyddai’r amser gorau.

Yng nghytundeb Cymru’n Un i sefydlu’r Llywodraeth glymblaid, roedd yna addewid i gynnal y refferendwm cyn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.

Fe fyddai hynny’n golygu cynnal y bleidlais cyn i ymgyrch yr etholiad ddechrau – ym misoedd Chwefror neu Fawrth pan allai’r tywydd fod yn wael.

Y dewis arall sydd wedi ei awgrymu gan Dafydd Elis-Thomas yw fod y trefniadau’n cael eu gwneud cyn yr etholiadau a’r bleidlais yn digwydd wedyn.

Llun: Cheryl Gillan (Gwifren PA)