Mae dathliadau yng Nghaerdydd heddiw i gofio can mlynedd ers i’r Capten Scott adael y ddinas ar ei daith angheuol i Begwn y De.

Dynion busnes o Gaerdydd oedd rhai o brif noddwyr ariannol y daith, wrth i Robert Falcon Scott a thri arall geisio ennill y ras i gyrraedd y Pegwn am y tro cynta’.

Roedd yna ginio mawr y noson cyn iddyn nhw hwylio ac fe gafodd hwnnw ei ail-greu neithiwr – fe fydd llynges fechan yn gadael porthladd Caerdydd heddiw i nodi’r achlysur.

Roedd yna Gymro o Benrhyn Gŵyr, Edgar Evans, yn rhan o’r fintai yn 1910 – ef oedd y cynta’ i farw ar eu taith yn ôl yn 1912.

Er bod dyn o Norwy, Roald Amundsen, wedi cyrraedd y Pegwn bum wythnos o’u blaenau nhw, mae hanes Scott a’i griw yn rhan o chwedloniaeth yr Ymerodraeth Brydeinig.

Ar y pryd, Caerdydd oedd un o borthladdoedd mwya’r byd.

Llun: Capten Scott ar y daith