Fe fydd canlyniadau’r ymchwiliad i drychineb Bloody Sunday yng Ngogledd Iwerddon yn cael ei gyhoeddi heddiw.
Ond mae’r dadlau am y digwyddiad yn Derry ym mis Ionawr 1972 yn debyg o barhau, gyda rhai eisiau gweld milwyr yn cael eu herlyn am ladd 13 o Gatholigion yn ystod gorymdaith.
Ymchwiliad Saville yw’r hira’ a’r druta’ yn hanes gwledydd Prydain – mae wedi cymryd 12 mlynedd a chostio mwy na £190 miliwn.
Cyfreithlon ai peidio?
Y disgwyl yw y bydd yn barnu’n derfynol a oedd y saethu’n gyfreithlon ai peidio – fe gafodd adroddiad cynharach gan yr Arglwydd Widgery ei gondemnio am wyngalchu’r fyddin.
Mae’n debyg o benderfynu a oedd milwyr wedi tanio’n ddireswm ar y gorymdeithwyr, neu a oedden nhw’n ymateb i saethu gan weriniaethwyr.
Dyna oedd honiad y milwyr ond mae teuluoedd y rhai a laddwyd yn mynnu nad oedd neb ar yr orymdaith hawliau sifil yn cario arfau.
Ymhlith arweinwyr byddin weriniaethol yr IRA yn Derry y diwrnod hwnnw, roedd Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon heddiw, Martin McGuinness.
Gorymdaith dawel
Y bore yma, fe fydd perthnasau’r bobol a laddwyd yn gorymdeithio’n dawel o’r Bogside tua chanol Derry, hyd lwybr y brotest wreiddiol.
Fe fydd rhai ohonyn nhw – a rhai gwleidyddion a milwyr – yn cael gweld copi o’r adroddiad ymlaen llaw.
Mae rhai o’r teuluoedd eisiau i filwyr unigol gael eu henwi a’u herlyn ond y prif ddymuniad yw cyhoeddiad bod y rhai a laddwyd yn ddiniwed.
Mae tystiolaeth fforensig yn dangos pa filwyr oedd wedi tanio ac at bwy.
Y cefndir
Y Sul Gwaedlyd yw un o’r digwyddiadau allweddol yn hanes Yr Helyntion yng Ngogledd Iwerddon ac mae wedi parhau i gorddi teimladau cryfion fyth ers hynny.
Mae’r digwyddiad wedi ei gofnodi mewn murluniau yn Derry ei hun, gan gynnwys fersiwn o’r llun enwog o offeiriad Pabyddol yn chwifio hances wen wrth i bobol gario dyn ifanc oedd wedi ei saethu.
John ‘Jackie’ Duudy, 17 oed, oedd un o’r rhai a fu farw.
Llun: Kay Duudy, chwaer y llanc 17 oed yn y murlun y tu ôl iddi. Mae’n dal yr hances wen a chwifiwyd gan offeiriad Pabyddol. (Gwifren PA)