Mae llywydd FIFA, Sepp Blatter, wedi cefnogi’r defnydd o gyrn y vuvuzela er gwaethaf nifer o gwynion eu bod nhw’n amharu ar awyrgylch gemau yng Nghwpan y Byd.
Fe ymatebodd y llywydd i’r cwynion ar ei dudalen Twitter gan ddweud ei fod yn ffafrio cadw’r offerynnau.
Mae cefnogwyr y timau tramor yn anhapus gyda’r vuvuzela oherwydd ei fod yn boddi awyrgylch y gemau a chwaraewyr yn cwyno nad ydyn nhw’n gallu clywed ei gilydd ar y cae.
“Dw i wastad wedi dweud bod gan Affrica sŵn a rhythm gwahanol,” meddai Sepp Blatter.
“Dw i ddim yn gweld traddodiadau cerddorol cefnogwyr yn cael eu gwahardd yn eu gwlad eu hunain.”
‘Cofleidio’r vuvuzela’
Mae trefnwyr lleol Cwpan y Byd wedi galw ar feirniaid y vuvuzela i dderbyn yr offeryn, gan fynnu na fydd yn cael ei wahardd o’r meysydd.
“Maen nhw’n rhan o’n diwylliant ni, felly cofleidiwch nhw,” meddai llefarydd ar ôl i un o benaethiaid y gystadleuaeth, Danny Jordan, awgrymu y gallen nhw gael eu gwahardd pe baen nhw’n cael eu camddefnyddio.
Llun: Sepp Blatter