Yr Eidal 1 – 1 Paraguay
Gêm gyfartal gafodd Yr Eidal wrth iddynt ddechrau eu hymgyrch i ddal gafael ar gwpan y byd yn erbyn Paraguay heno.
Bydd y pencampwyr yn siomedig gyda’u perfformiad mewn gêm ddigon difflach yn Cape Town. Wedi dweud hynny, byddan nhw hefyd yn falch i ddod nôl o fod gôl ar ei hôl hi ar yr hanner.
Er mae’r Eidalwyr oedd y tîm gorau trwy gydol y gêm, ychydig iawn o fygythiad a ddangoswyd gan eu hymosodwyr yn yr hanner cyntaf. Cafodd tîm Marcello Lippi eu cosbi wedi 39 munud, wrth i’r amddiffynnwr Antolin Alacaraz benio i’r rhwyd o gic rydd berffaith Aureliano Torres.
Yn sicr roedd angen gôl ar y gêm ac roedd yr Eidalwyr yn llawer mwy pwrpasol wedi’r hanner. Wedi dweud hynny, parhaodd Paraguay i’w cyfyngu i ergydion o bellter. Yna, wedi 63 milltir daeth camgymeriad arall gan gôl-geidwad o gic gornel gan yr Eidal. Hedfanodd Justo Villar am y croesiad gyda’i ddwrn ond methu’r bêl yn llwyr gan roi cyfle rhwydd i Daniele de Rossi rwydo yn y postyn pellaf gan ddod a’r sgôr yn gyfartal.
Roedd Yr Eidal yn edrych fel tîm newydd wedi’r gôl, a daeth sawl hanner cyfle, ond ofer oedd eu hymdrechion wrth i’r gêm ddarfod yn gyfartal.