Mae’r cneifwyr fydd yn cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth Cneifio’r Byd yn y Sioe Frenhinol fis nesa’ wedi dangos eu potensial drwy wneud yn dda iawn mewn amryw o gystadlaethau mewn pencampwriaeth ryngwladol arall.
Fe enillodd Gareth Evans a Gareth Daniel y gystadleuaeth Prawf Cneifio Peiriant ym Mhencampwriaeth Cneifio a Thrin Gwlân Rhyngwladol Iwerddon, yn Portlaoise.
Fe ddaeth Gareth Daniel yn ail hefyd yn y Gystadleuaeth Agored, ac fe ddaeth Gareth Evans yn bedwerydd.
Fe enillodd John Till ac Elfed Jackson y Prawf Cneifio Llafn ac enillodd Bronwen Tango y Gystadleuaeth Trin Gwlân. Daeth Elfed Jackson i’r brig yn ogystal yn y Bencampwriaeth Llafn Agored.
Caerfaddon
Fe ddaeth y Cymry i’r brig yng Nghystadleuaeth Cneifio’r Chwe Gwlad – Cymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Iwerddon a Ffrainc – yn ogystal, yn sioe Frenhinol Caerfaddon a’r Gorllewin.