Mae’r Iseldiroedd wedi ennill eu gêm agoriadol yng Ngrŵp E, gan faeddu Denmarc 2-0 yn Johannesburg.
Fe orffennodd yr hanner cyntaf yn ddi-sgôr gyda’r ddau dîm yn weddol gyfartal yn eu chwarae.
Ond fe aeth yr Iseldiroedd ar y blaen funud wedi’r egwyl ar ôl i’r amddiffynwr, Daniel Agger, ganfod cefn ei rwyd ei hun.
Wrth i Simon Poulsen geisio clirio’r bêl, fe darodd y bêl yn erbyn cefn Agger a heibio i Thomas Sorensen yn y gôl.
Dim cyfle
Yn ystod yr ail hanner, fe fethodd Denmarc â chreu llawer o gyfleoedd er mwyn unioni’r sgôr.
Ac wrth i’r ail hanner fynd rhagddo, fe gymrodd yr Iseldirwyr fwy o reolaeth o’r chwarae.
Fe sicrhaodd tîm Bert van Marwijk y fuddugoliaeth gyda phum munud o’r gêm yn weddill gyda Dirk Kuyt yn sgorio ail gôl iddyn nhw.