Fe fydd y Testament Newydd a’r Salmau yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg mewn Braille mewn oedfa arbennig yng nghapel Coleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin nos fory.
Fe ddywedodd Rhian Evans, gwraig o Gaerfyrddin sydd wedi ymgyrchu ers blynyddoedd am gael Beibl Braille Cymraeg wrth Golwg360 fod hyn yn golygu “agor y ddôr i un o’r ffynonellau llenyddol mwyaf” i’r deillion.
Mae apêl genedlaethol i godi £25,000 o fewn ychydig fisoedd i dalu am y gwaith wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda Chymdeithas y Beibl a’r enwadau crefyddol yng Nghymru wedi bod yn cyfrannu’n helaeth yn ogystal â chapeli ac eglwysi, ysgolion ac unigolion.
“Rwy’n ddiolchgar i bawb am eu haelioni,” meddai.
Sefydliad y Deillion (RNIB) sydd yn cynhyrchu’r llyfrau Braille hyn, gyda Chymdeithas y
Beibl yn cydlynu’r gwaith ar ran y pwyllgor apêl.
Breuddwyd
Mae Rhian Evans, a gollodd ei golwg pan yn wraig ifanc, wedi ymgyrchu ers blynyddoedd i gael Beibl Braille Cymraeg.
“Mae fy mreuddwyd wedi dod yn wir,” meddai. “Dylai’r Beibl fod ar gael i bawb i’w ddarllen. Rwy’n ddiolchgar dros ben i bawb sydd wedi cefnogi’r apêl yma.
“Mae hyn yn golygu y bydda i yn gallu darllen y testament yn Gymraeg – y bydd e’n hygyrch i mi yn bersonnol a na fyddai’n gorfod dibynnu ar gasetiau rhagor.”
30 iaith Braille
Er bod y Beibl (neu rannau ohono) ar gael mewn bron i 2,500 o ieithoedd ledled y byd, dim ond 30 iaith sydd â fersiwn Braille.
“Rwy’ i yn y lleiafrif sydd â diddordeb,” meddai Rhian Evans.
“Does dim lot o ddeillion yn darllen Braille. Mae llai yn darllen Braille yn y Gymraeg a llai fyth wedyn yn darllen y Beibl.”