Mae’r Gleision wedi cadarnhau bod Sam Norton Knight wedi gadael y rhanbarth i ymuno â’r Sanyo Wild Knights yn Japan.

Fe ddaeth Knight o glwb y New South Wales Waratahas yn 2009, gan chwarae ei gêm gynta’ i dîm Dai Young yn erbyn Caeredin ym mis Medi’r flwyddyn honno.

Fe aeth yn ei flaen i chwarae saith gêm arall i’r rhanbarth yn safle’r maswr, cyn cael ei symud i chwarae fel cefnwr ar ôl cyfres o berfformiadau cymysg.

Fe chwaraeodd 20 o gemau i’r Gleision, gan sgorio tair cais ac un gic adlam yn ystod ei gyfnod ym mhrifddinas Cymru.


Amheuon

Ond fe gododd amheuon ynglŷn â’i ddyfodol gyda’r Gleision ar ôl i Dai Young arwyddo Dan Parks o glwb Glasgow ar gyfer y tymor nesa’.

“Mae Sam yn chwaraewr rygbi talentog ond, yn anffodus, welson ni ddim mohono’n cyrraedd ei lawn botensial yma yng Nghymru,” meddai Prif Weithredwr y Gleision, Robert Norster.

“Ar ran pawb sy’n ymwneud â’r Gleision, fe hoffwn i ddymuno pob llwyddiant i Sam a’i bartner, Natalie, yn Japan.”