Fe fydd chwaraewr canol cae Caerdydd yn cynnal trafodaethau gyda chlwb Eidalaidd Roma yn ystod yr wythnos… ond mae clwb Stoke yn Lloegr hefyd wedi dangos diddordeb ynddo.

Mae disgwyl i Ledley ddychwelyd o wyliau ym Mhortiwgal yr wythnos yma, ac fe fydd yn cynnal mwy o drafodaethau gyda chlybiau cyn penderfynu ar ei ddyfodol.

Mae Celtic eisoes wedi cynnig cytundeb iddo werth tua £25,000 y flwyddyn, ac fe fydd hefyd yn gwrando ar yr hyn sydd gan glwb prifddinas yr Eidal i’w gynnig.

Ond mae rheolwr Stoke, Tony Pulis, a geisiodd arwyddo’r Cymro yn 2008 yn debygol o wneud ymdrech arall i sicrhau llofnod y chwaraewr canol cae.

Pedair blynedd yn yr Uwch Gynghrair?

Mae yna adroddiadau bod Stoke yn barod i gynnig cytundeb pedair blynedd i Ledley a fyddai’n gwireddu ei freuddwyd o chwarae yn yr Uwch Gynghrair.

Mae Caerdydd wedi cynnig cytundeb o tua £11,000 yr wythnos gyda sawl bonws ar ben hynny i geisio perswadio’r Cymro aros gyda’r clwb mae wedi cynrychioli ers yn naw oed.


Gadael Caerdydd

Ond mae’n debygol y bydd Joe Ledley yn gadael prifddinas Cymru er mwyn cael chwarae ar lefel uwch ar ôl methiant yr Adar Gleision i ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair y mis diwetha’.

Pe bai Ledley yn gadael Caerdydd, fe fyddai’n well gan y clwb iddo ymuno gydag un o glybiau’r Uwch Gynghrair, gan y byddai hawl ganddyn nhw, wedyn, i dderbyn iawndal am ei golli.

Ond pe bai Ledley yn arwyddo gyda Celtic yn yr Alban, neu Roma yn yr Eidal, ni fyddai Caerdydd yn cael yr un geiniog.