Mae barnwr yng Ngwlad Thai wedi penderfynu cyflymu’r broses gyfreithiol yn achos dau ddyn o dramor a arestiwyd mewn cysylltiad â phrotest y Crysau Coch.

Penderfynodd y barnwr mai dim ond tridiau arall fydd gan yr heddlu i gasglu tystiolaeth yn erbyn Jeff Savage, 48, o Loegr; a Conor Purcell, 30, o Awstralia.

Fe gafodd y ddau eu harestio bron i fis yn ôl, wedi i Lywodraeth Gwlad Thai anfon milwyr i gael gwared â’r protestwyr oedd wedi meddiannu rhan o’r brifddinas, Bangkok, ers wythnosau.

Annog

Honnir bod Jeff Savage wedi annog ac wedi cymryd rhan mewn llosgi anghyfreithlon, a honnir bod Conor Purcell wedi annog trais mewn areithiau i’r protestwyr.

Mewn achos llys blaenorol, roedd Jeff Savage wedi gwingo efo’i warchodwyr, gan honni ei fod wedi cael ei guro yn y carchar, a’i fod yn cael ei gadw’n gaeth yn anghyfreithlon.

Mis o brotest

Fe fu bron i 90 o bobol farw, a chafodd dros 1,400 eu hanafu, yn ystod yr ymgyrch Ym misoedd Ebrill a Mai eleni.

Roedd y Crysau Coch yn galw am etholiadau seneddol newydd.

Llun: protestiadau y Crysau Coch