Mae hyfforddwr y Crusaders, Brian Noble wedi llongyfarch ei dîm am gyflawni’r dwbwl dros y Bradford Bulls yn y Super League y tymor hwn ar ôl buddugoliaeth 44-20 ar y Cae Ras.

Mae’r clwb Cymreig wedi dechau’n araf mewn sawl gêm yn ddiweddar gan roi’r cyfle i’r gwrthwynebwyr agor mantais fawr yn eu herbyn.

Ond y Crusaders gychwynnodd orau y tro hwn – gyda Gareth Thomas a Vince Mellars yn sgorio ceisiau, ynghyd â dwy gan Wellar Hauraki – i roi tîm Brian Noble 18-0 ar y blaen.

Teirw’n taro’n ôl

Er gwaethaf dechrau ardderchog y Crusaders, fe darodd y Bulls yn ôl gyda cheisiau gan Chris Nero, Dave Halley a Michael Worriney i leihau’r fantais i 20-16.

Ond fe groesodd Tony Martin, Nick Youngquest a Lincoln Withers i sicrhau’r fuddugoliaeth gyda chicio cywir Clinton Schifcofske yn helpu’r Crusaders i fuddugoliaeth gadarnhaol.

Hapus iawn

“Rwy’n hapus iawn dros y chwaraewyr,” meddai Noble . “D’yn ni heb ennill ers tair i bedair wythnos, felly mae hwn yn atgyfnerthu’r hyder a’r gred sy’n perthyn i’r tîm.

“Roedd hyn hefyd yn atgyfnerthu’r pethau oedd wedi ein gwneud ni’n llwyddiannus ar ddechau’r tymor. R’yn ni wedi dychwelyd at y pethau bach hynny.”