Fe fydd yn rhaid i Gymru arafu pêl gyflym Seland Newydd yn y ryc, os ydyn nhw am fod ag unrhyw gyfle o faeddu’r Crysau Duon y penwythnos diwethaf. Dyna farn capten Iwerddon, Brian O’Driscoll.
Fe gafodd y Gwyddelod drafferth ymdopi gyda chwarae Seland Newydd ddydd Sadwrn diwetha’, gan golli 66-28 yn Stadiwm Yarrow.
Roedd yr ymwelwyr o dan anfantais pan gafodd Jamie Heaslip y garden goch yn yr hanner cyntaf, ynghyd â Ronan O’Gara yn cael ei anfon i’r gell gosb am 10 munud.
Ond fe gymerodd tîm Declan Kidney amser i addasu i steil chwarae’r Crysau Duon wrth iddyn nhw ail-gylchu’r bêl yn gyflym gan fygwth llinell Iwerddon yn gyson.
Brwydro’n ôl
Fe frwydrodd Iwerddon yn ôl yn yr ail hanner, wrth i hyfforddwr Seland Newydd roi cyfle i’w eilyddion.
“Bydd rhaid i Gymru atal cyflymer y bêl o’r ryc. Dyna oedd un o’n trafferthion,” meddai O’Driscoll.
“Maen nhw’n gallu creu pêl gyflym iawn, ac roedden ni’n methu gosod ein llinell amddiffynnol mewn amser.
“Mae eu trosglwyddo a’u cefnogaeth i’w gilydd o’r safon uchaf ac fe chwaraewyr yn dda iawn am brawf cynta’r tymor.”
Fe all Cymru lwyddo
Er gwaethaf bygythiad Seland Newydd, mae Brian O’Driscoll yn dal i gredu y gallai Cymru lwyddo yn y ddau brawf yn Dunedin a Hamilton.
“Mae Cymru y math o dîm sy’n ddigon medrus i allu gofidio unrhyw dîm yn y byd,” meddai O’Driscoll.
“Os fyddan nhw’n dechrau’r gêm yn dda, fe allen nhw fynd ymlaen i wneud yn dda iawn,” nododd y Gwyddel.