Mae Morgannwg wedi colli gêm am y tro cyntaf y tymor hwn yng nghystadleuaeth Ugain20, ar ôl i Sussex ennill o dair wiced yn Chelmsford.
Roedd Morgannwg wedi gosod targed o 144 i Sussex, gyda Tom Maynard a Gareth Rees yn helpu’r achos gyda 35 rhediad yr un.
Pan lithrodd Sussex i 46-4, roedd buddugoliaeth i’r Dreigiau yn edrych yn debygol.
Ond…
Ond fe sgoriodd Luke Wright 39 rhediad oddi ar 21 pêl i sefydlogi achos y tîm cartref.
Fe gafodd hyn ei ddilyn gan 28 rhediad oddi ar 18 pêl gan Chris Nash, i sicrhau’r fuddugoliaeth i Sussex.
Dyma’r bumed fuddugoliaeth yn olynol i Sussex yn y gystadleuaeth, ac maen nhw bedwar pwynt ar y blaen i Forgannwg, sy’n ail yn y tabl.
Llun: Tom Maynard