Fe enillodd yr actores Gymreig, Catherine Zeta-Jones, wobr theatr Tony mewn seremoni yn Efrog Newydd neithiwr.

Fe gafodd yr actores ei henwebu yng nghategori’r actores orau mewn sioe gerdd, a hynny gan yr American Theatre Wing.

Fe enillodd y wobr am ei phortread o Desiree Armfeld yn y sioe A Little Night Music.

Roedd enillwyr eraill yn cynnwys y Sais, Douglas Hodge, a gafodd y wobr am yr actor gorau mewn sioe gerdd, yn ogystal â’r actorion Hollywood, Denzel Washington a Scarlett Johansson.