Mae’r actores Gymreig, Catherine Zeta-Jones, wedi ennill gwobr theatr Tony mewn seremoni yn Efrog Newydd.

Fe gafodd y wobr neithiwr am fod yr actores orau mewn sioe gerdd, ar ôl cael ei henwebu am y tro cynta’ erioed gan yr American Theatre Wing.

Fe enillodd y wobr am ei phortread o Desiree Armfeld yn y sioe A Little Night Music.

Roedd enillwyr eraill yn cynnwys y Sais, Douglas Hodge, a gafodd y wobr am yr actor gorau mewn sioe gerdd, yn ogystal â’r actorion Hollywood, Denzel Washington a Scarlett Johansson.