Fe fydd angladd gefaill y dyn a saethodd 12 o bobol yn farw yn Cumbria, yn digwydd heddiw.

Yn ôl teulu David Bird, maen nhw am i’r angladd fod yn ddathliad o’i fywyd, ac i’r gwasanaeth adlewyrchu ei bersonoliaeth hawddgar.

Credir mai David Bird, 52, oedd y cyntaf i gael ei ladd gan Derrick Bird – mae’n debyg iddo gael ei saethu yn ei wely yn ei gartref yn Lamplugh, yn oriau mân bore Mercher, Mehefin 2.

Dim dadl

Mae aelodau o’r teulu wedi gwadu honiadau bod dadl rhwng y brodyr, ond mae un perthynas wedi dweud nad oedd y ddau frawd yn agos.

Mae adroddiadau wedi awgrymu bod dadl wedi digwydd rhyngddynt ynglŷn â manylion ewyllys eu tad.

Ar ôl saethu ei frawd, credir fod Derrick Bird wedyn wedi mynd a saethu cyfreithiwr y teulu, Kevin Commons, 60, cyn teithio trwy drefi a phentrefi yng ngorllewin Cumbria, lle saethodd 10 o bobol eraill yn farw, cyn ei saethu ei hun.

Ail angladd

Fe fydd angladd un o’r bobol eraill a gafodd eu saethu’n farw, yn digwydd heddiw hefyd.

Roedd Mike Pike, 64, wedi cael ei saethu’n farw wrth reidio’i feic yn nhre’ Seascale.

Fe fydd angladd Derrick Bird yn digwydd ar ôl pob un o’r 12 a laddwyd.