Mae chwech o bobol wedi cael eu lladd a thros 100 wedi eu hanafu, ar ôl i filoedd o bobol ruthro wrth geisio dianc o rali wleidyddol yn Kenya.

Roedd y bobol yn ceisio gadael y maes parcio yn Nairobi, yn dilyn dau ffrwydrad a ddigwyddodd gerllaw.

Nid oes gwybodaeth eto ynglŷn â phwy sy’n gyfrifol am y ffrwydradau, ond mae’r heddlu yno wedi dweud nad oeddent yn rai mawr, ac y gallai bomiau cartref wedi bod yn gyfrifol.

Cyfansoddiad

Roedd y brotest wedi ei threfnu gan grwpiau Cristnogol sy’n gwrthwynebu drafft newydd cyfansoddiad y wlad.

Mae’r drafft yn parhau i gydnabod llysoedd Islamaidd sydd eisoes wedi eu sefydlu yn y wlad, yn ogystal â chymal sy’n caniatáu erthyliad er mwyn achub bywyd y fam.
Mae honiadau mai rhai sy’n cefnogi’r cyfansoddiad newydd oedd yn gyfrifol am y ffrwydradau.

Mae disgwyl i’r wlad bleidleisio ynglŷn â’r drafft newydd mewn refferendwm ym mis Awst.