Celtic Crusaders 44 Bradford Bulls 20
Roedd hyfforddwr y Croesgadwyr wrth ei fodd ar ôl buddugoliaeth brin – a’u dwbl cynta’ erioed yn erbyn un o dimau’r Uwch Gynghrair.
Am unwaith, fe gafodd y tîm rygbi cynghrair ddechrau da, gyda’r asgellwr Gareth Thomas yn sgorio cais cynnar.
O fewn ychydig, roedd y Cymry 18-0 ar y blaen – yn hollol groes i gemau’r wythnosau diwetha’ pan fuon nhw’n ildio pwyntiau gwirion ar y dechrau.
Ond fe ddaeth cyfnod nerfus ar ôl hanner amser wrth i’r Bradford Bulls ei thynnu hi’n ôl i 20-16.
Cais gan Tony Martin ac ail gais i Wellar Hauraki a drodd y fantol unwaith eto a rhoi buddugoliaeth gyfforddus i’r Crusaders.
‘Balch iawn’
“Ro’n i’n falch iawn tros y chwaraewyr,” meddai’r hyfforddwr, Brian Noble. “Dyden ni ddim wedi bod ymhlith yr enillwyr ers tair neu bedair wythnos bellach felly mi fydd yn atgyfnerthu cred a hyder y tîm.”
Roedden nhw wedi mynd yn ôl at fformiwla lwyddiannus dechrau’r tymor, meddai, trwy “wneud y pethau bychain”.
Llun: Cais cynnar i Gareth Thomas (o wefan y clwb)