Mae’r dyn sy’n gyfrifol am edrych eto ar reolau Iechyd a Diogelwch yn dweud bod rhai ohonyn nhw’n “jôc”.

Yn ôl y cyn-weinidog Torïaidd, yr Arglwydd Young, mae’r rheolau’n bwysig mewn diwydiannau peryglus ond yn chwerthinllyd mewn rhai meysydd eraill.

Fe soniodd am ras grempogau lle’r oedd pobol wedi gorfod cerdded ar ôl iddi fwrw glaw ac am athrawon ysgol sy’n anfodlon mynd â phlant ar drip oherwydd yr holl ffurflenni sy’n gorfod cael eu llenwi cyn mynd.

Y Prif Weinidog, David Cameron, sydd wedi gofyn i George Young gynnal yr ymchwiliad gan ddweud ei fod yn poeni am effaith y diwylliant iawndal ar fusnesau.

“Mae cynnydd y diwylliant iawndal yn ystod y deng mlynedd diwetha’ yn achos pryder gwirioneddol,” meddai. “Felly hefyd y rheolau iechyd a diogelwch, fel y maen nhw’n cael eu gweinyddu ar hyn o bryd.”

Llun: David Cameron (Gwifren PA)